Ar Golled
Bydd pob un ohonom, ar ryw adeg yn ein bywydau, yn profi colli rhywun agos atom, a byddwn i gyd yn delio â’r golled honno yn ein ffordd ein hunain. Gall fod yn anodd mynegi ein teimladau, hyd yn oed i ni ein hunain – gallant fod yn gymysgedd cymhleth o alar, dicter, rhwystredigaeth, ac ymdeimlad bod rywbeth ar goll.
Gelwir y prosiect yn Ar Golled am fod ystyron gwahanol i’r ymdeimlad o fod ar goll: pwynt y golled, yw’r un amlwg, ond yn ogystal mae ansicrwydd ynglyn â beth i’w wneud; colled cyswllt; dryswch; bod mewn cyfyng-gyngor, thema syn codi dro ar ôl tro yn dilyn colled ac ymdriniaeth â galar. Yn aml iawn gall emosiynau pwerus gael eu sbarduno wrth ddarganfod rhywbeth sy’n gysylltiedig â’r un a gollwyd – darn o bapur gyda llawysgrifen gyfarwydd, dilledyn, cudyn o wallt, ffotograff wedi pylu. Yn dilyn marwolaeth, rydym yn aml yn cael ein llethu gyda’r pwysau o ddelio â’r gwrthrychau a adawyd ar ôl.
Mae gwreiddiau’r prosiect Ar Golled yn deillio o farwolaeth mam Inga Burrows, artist a churadur y prosiect, gyda’r arddangosfa yn dangos rhai o’r ffyrdd creadigol y gellir defnyddio gwrthrychau i fynegi’r teimladau lle nad yw geiriau’n teimlo’n ddigon.
“Gall penderfynu beth i’w wneud ag eiddo materol anwylyd a gollwyd fod yn llethol i lawer ohonom, waeth faint o amser sydd wedi mynd heibio ac o dan ba amgylchiadau y bu farw’r anwylyd”, eglura Burrows. “Fel yr unig ferch ymhlith fy mrodyr fe gymrais y cyfrifoldeb o ddidoli pethau fy mam, ei dillad, ei hetiau, sbectolau, llestri, dillad isaf, brwshis gwallt, gemwaith, dillad gwely ac ati. Wrth weld ei heiddo wedi’i osod ar lawr ei hystafell fyw ac ystyried beth i’w gadw a beth i ollwng gafael arno, roedd pentyrrau o stwff fy mam yn troi’n ddeunyddiau celf o flaen fy llygaid, ysgogwyd fy nychymyg. Sut gallwn i ddefnyddio ei phethau i wneud rhywbeth a fyddai’n caniatáu i mi wneud synnwyr o’n perthynas?
“Arweiniodd y cwestiwn hwn i mi feddwl tybed faint o artistiaid eraill a allai fod, mewn mannau eraill yn y byd, wedi’u hysbrydoli’n greadigol i ddefnyddio eiddo eu hanwyliaid colledig fel deunydd ar gyfer gwneud celf? Fy chwilfrydedd wrth fynd i’r afael â’r cwestiwn hwn arweiniodd at y prosiect Ar Golled, ac o ganlyniad fy mhrofiad cyntaf o guradu sioe grŵp.”
Mae’r arddangosfa yn Oriel Celf Ganolog, y Barri, yn ganlyniad i alwad agored rhyngwladol, yn gwahodd artistiaid i naill ai gyflwyno gwaith oedd yn bodoli eisoes yn ymwneud â thema colled, neu i wneud cynigiad ar gyfer gwaith comisiynol newydd i’w arddangos ochr yn ochr â’r gweithiau eraill a ddetholwyd. O dderbyn un o’r comisiynau roedd ymrwymiad i gymryd rhan mewn cyfres o ddeialogau ar-lein gyda’r artistiaid eraill a gomisiynwyd. Yn ystod y deialogau hyn, cymrodd artistiaid eu tro i siarad am eu gwaith gan agor trafodaethau am eu hymagweddau tuag at greu a’r themâu ehangach yn ymwneud â cholled a galar. I rai artistiaid, cafodd y sgyrsiau hyn gryn effaith ar y modd y datblygodd eu gwaith, i eraill, roedd gan y profiad o rannu gwaith a myfyrdodau ganlyniadau eraill, ond i’r holl gyfranogwyr ymddangosodd hwn yn fframwaith hynod o ddiddorol a chefnogol iawn ar gyfer gwneud a trafod gwaith. Roedd hyn er gwaethaf natur hanfodol y pellter o gyfarfod trwy fideo ond a alluogodd i artistiaid o bob rhan o’r byd ddod at ei gilydd i rannu eu gwaith ar y gweill a’u syniadau.
Bu i Georgia Holmer yn bendant brofi newid i’r hyn roedd hi’n ei wneud oherwydd y sgyrsiau hynny. Mae ei gwaith yn ymateb i don ohiriedig o alar ar farwolaeth ei mam, a darodd drosti wrth iddi agor blychau o bethau ei mam, flynyddoedd ar ôl ei marwolaeth. “Wrth i mi ddadbacio’r bocsys, des i o hyd i gymaint o ddarnau ohoni; ei llyfrau nodiadau ysgol gyda llawysgrifen berffaith, ei hymchwil ar gyfer PhD na chwblhawyd erioed, llythyrau, lluniau ohoni fel merch a menyw ifanc, minlliw sychlyd, ac yn syfrdanol, cudyn hir, sgleiniog, o’i gwallt lliw brown castan.
“Yr hyn roeddwn i’n ei archwilio trwy’r broses hon, y tu hwnt i iachâd emosiynol a dealltwriaeth ddyfnach o fy mam fel unigolyn, oedd fy nheimladau fy hun o waradwydd yn gysylltiedig â salwch a marwolaeth ac amlosgiad. Fy mwriad ar gyfer y prosiect oedd arddangos y gwaith fel cyfres o ffotograffau o’r arteffactau a greais gyda naratîfau cysylltiedig ar ffurf llythyrau at fy mam. Roeddwn wedi galw’r corff hwn o waith yn Creirfa i’m Mam.”
Fodd bynnag, o ganlyniad i gymryd rhan yn y sgyrsiau â’r artistiaid eraill, fe welodd Holmer ei gwaith yn esblygu i fod yn rhywbeth hollol wahanol: “Newidiodd fy mwriad a phenderfynais ddatblygu darn newydd o waith, cerflun ar raddfa fwy a oedd – yn annisgwyl i mi – yn adlewyrchu dealltwriaeth a phrofiad gwahanol iawn o golled fy mam. Rwy’n sicr mai’r cysylltiad â’r grŵp a’n deialogau a arweiniodd at y gwaith newydd hwn.”
Myfyria Maddox Pratt, “Wrth gael y math hyn o sgyrsiau personol ac emosiynol am gelf a galar, gall fod yn anodd nodi sut yn union y mae wedi achosi i’ch gwaith newid. Rwy’n siŵr y byddai fy ngherflun yn edrych ychydig yn wahanol heb y sgyrsiau hyn. Efallai’n llai tebyg i asgwrn mewn mannau. Ond ni allaf ddweud yn union pwy ddywedodd beth a phryd y gwnaeth bery i mi feddwl hynny. Mae’r deialogau’n parhau. Mae gwaith a geiriau’r artistiaid eraill yn aros yn fy meddwl ac, rwy’n siŵr, yn treiddio trwy fy ngwaith heb i mi fod yn gwbl ymwybodol”.
Dywed Emily Underwood-Lee iddi gael ei herio i feddwl am golled, a’r cynrychioliad o alar, mewn ffyrdd newydd a diddorol. “Roedd diddordeb arbennig gennyf yn rhai o’r sgyrsiau am y deunyddiau y mae pobl yn gweithio â nhw a rhinweddau gweadol a ffurfiol y gweithiau sy’n cael eu creu, a oedd yn syndod i mi ac yn rhywbeth nad oeddwn yn disgwyl ei gael o sgyrsiau ar-lein.” Ar gyfer Ar Golled, mae hi wedi cydweithio â Jodie Allinson ar broses barhaol, gyda’i ddogfennaeth derfynol yn cael ei rannu yn yr arddangosfa. Ychwanegodd Allinson “…gall ystyron ddod i’r amlwg trwy ddeialog gyda rhywun arall. Yn bendant cafodd y deialogau effaith ar ein sgyrsiau a’n persbectif ar y gwaith roedd Emily a minnau’n ei wneud. Roeddwn yn gyffrous i wneud y broses hon fel rhan o garfan fwy o bobl i weld beth fyddai’n dod i’r amlwg”.
Mae i bob artist ei ddull unigol o wneud gwaith, rhai’n gweithio’n systematig, eraill yn reddfol. Wrth weithio ar safle bedd ei babi yng Nghwm Garw, ger Pen-y-Bont ar Ogwr, teimlai Helen Acklam, “… arweiniad at gysylltiad fforensig ac ysbrydol â’r ddaear a dealltwriaeth gorfforol o famolaeth a galar. Gan weithio gyda deunyddiau byw, perfformiad a safle-benodrwydd, mae’r gwaith wedi’i wreiddio yn y dirwedd, yn rhannu straeon a chysylltiadau dadlennol rhwng profiad personol a goblygiadau cymdeithasol, gwleidyddol a daearegol y dirwedd ôl-ddiwydiannol, adfeiliedig hon lle ces i fy magu.
“Wrth gysylltu fy nghorff â’r deunyddiau sy’n gwneud y dirwedd hon, cefais ymdeimlad cynyddol o gydgysylltiad a sut y cefais i fy siapio gan y tir hwn. Mae’r troad hwn tuag allan wedi creu ymdeimlad cryf o le yn fy ymarfer ac wedi agor cyfleoedd i gydweithio ag artistiaid ac ymchwilwyr eraill. Mae rhannu gwaith a siarad â’r grŵp, dros y cyfnod hwn o baratoi ar gyfer yr arddangosfa, wedi fy helpu i gydnabod y cymysgedd cymhleth o deimladau sy’n ymwneud â galar.”
“Yn draddodiadol, mae yna sawl ffordd o brosesu galar,” nododd Michal Harada. “Hanfod y rhan fwyaf o ffyrdd yw creu amser a gofod a bod yn bresennol gyda’r galar. Rwy’n credu bod y fframwaith yma’n bwysig, ond fel menyw seciwlar ac fel artist, teimlaf bod angen i mi gael y rhyddid i wrando’n ofalus arnaf fy hun a gweld beth yw’r deunyddiau y byddaf yn gweithio gyda nhw – syniadau, teimladau, atgofion, sylwedd, siapiau a chyfansoddiad. Credaf bod yr ymateb gweledol yna yn iaith y gallaf ei siarad yn fwy rhugl, Rwy’n teimlo bod y llais mewnol yn siarad. Gan gymryd cerddoriaeth fel enghraifft arall, mae’n amlwg bod ystyr dwfn mewn ysgrifennu cân ffarwel i rywun neu rywbeth sydd wedi mynd – does dim angen eglurhad. Iaith y galon yw hi a gall canu’r gân yna gynnig ffordd i fod yn bresennol gyda’r colledig, felly mae’r ymateb gweledol yr un peth – megis cân arall.”
Mae gwaith Valda Jackson i’r arddangosfa yn ddatblygiad o waith blaenorol yn defnyddio deunydd archifol, ond mae’r cyflwyniad hwn yn fwy personol. “Mae Ymdrin â Gofal (dau) yn gloddiad o fy archifau fy hun. Gwaith a wnaed dros ddegawdau, y rhan fwyaf ohono’n cynnwys elfennau o golled, o alar sy’n llithro’n araf fel plentyn clwyfus, yn ymddangos fel pe bai’n crwydro ar draws pob tudalen, dalen, neu gynfas, yn eistedd heb oruchwyliaeth ym mhob cerflun; heb dderbyn unrhyw esmwythad. Ciledrychwn yn unig.
“Mae’r haeniad pellach hwn o ddelweddau archifol, rhai ohonynt yn gomisiynau celf cyhoeddus, megis Pinafforiau’r Genethod – a gwblhawyd tra roeddwn yn gofalu am, ac yna’n galaru am golli chwaer –yn cydnabod gweithiau a grëwyd, a marciau a wnaed mewn galar; mae’n cydnabod y sbectrwm eang o golled, gan gynnwys ymwahaniad a mudo. Yn y gwaith hwn, rwy’n dechrau edrych tuag at y plentyn coll crwydrol yna, efallai i’w hachub, neu o leiaf i fod yn atebol.”
Daw nifer o wrthrychau ynghyd sy’n cysylltu colled ei mham, tair camesgoriad a marwolaeth dwy gath yng ngwaith deubig Dagmar Radmacher: “Yn Côt Fy Mam, rwy’n tynnu cyffelybiaethau uniongyrchol rhwng torion terfynol gwerthfawr o ffwr fy nghathod i’r her foesegol o etifeddu côt ffwr fy mam. Mae dwy wrn, lle cadwaf lwch fy nghathod, yn weledol atgffaol o fronnau, yn eu tro’n cyfeirio at ganser y fron a laddodd fy mam. Roeddwn i eisiau dychwelyd y gôt i natur. Y natur y carai fy mam fwyaf ac y dymunai gael ei chladdu ynddo. Parhaodd y dymuniad hwn heb ei wireddu, wedi’i drechu gan reolau a rheoliadau a dim ond nawr yn cael ei gyflawni, serch yn symbolaidd yn unig, trwy fynd â’r gôt i’r goedwig a galluogi’r rhyngweithio hwn rhyngddaf i, natur a’r dilledyn.
“Mae yna agor a phlygu ailadroddus, darganfod a chuddio. Gofalu a thrysori. Mae’r weithred hynod ddomestig o blygu ffabrig i’w storio hefyd yn diffinio llawer o fywyd fy mam fel gwraig tŷ balch a galluog. Mae fy nwylo’n gorffwys, yn plygu ac yn troi yn Côt fy Mam yn ogystal ag yn Tschüss Mama! ich hab’ Dich lieb [Hwyl Fawr Mam! Rwy’n dy garu di], gan adlewyrchu’r weithred gyflawnwyd mor aml gan fy mam. Pan feddyliaf am fy mam, mae’n anochel i mi feddwl am ei dwylo, a hyd yn oed yn achlysyrol pan ddaw i’m breuddwydion, y dwylo sy’n dweud y stori.”
Tra mae’r holl weithiau hyn yn ymatebion i brofiadau ac emosiynau hynod bersonol, mae pob un o’r artistiaid yn cynnig rhywbeth sy’n cysylltu â’u cynulleidfaoedd mewn ffordd fwy cyffredinol.
Mae ffotograffau teuluol yn atalnodi Braslun ar gyfer ‘Electra’ gan Richard Bowers lle mae’n cyfosodi ei alar personol am golled ei blentyndod gyda chwedl Electra, ac yn dod a’i galar hi i’r oriel mewn gwaith fideo dwy-sgrîn. Mae Caitriona Dunnett hefyd yn defnyddio hen ffotograffau teuluol i ail-greu gardd ei thaid yn yr Alban, mewn cyfres o brintiau Lwmen o ffrwythau, blodau a llysiau yn Yr Ardd Goll. Dechreuodd Sean Vicary Y Trwyn tra roedd ei fam yn dal yn fyw, ond daeth y fideo yn ffordd greadigol o brosesu ei alar wedi ei marwolaeth, mewn animeiddiad o’r blodau yn ei gardd. Mae fideo Rebecca Farkas yn anelu i greu, “gofod tawel i fyfyrio sut mae galar yn cyffwrdd â’n bywydau a sut y bodola’n unig oherwydd y cariad a ddaeth o’i flaen”, tra bod Wnes i Grybwyll gan Maja Irene Bolier yn fideo am alaru o bell. Gorfodwyd Bolier i fynychu angladd ei modryb yn rhithwir, ond methodd y dechnoleg: “Erbyn hynny roeddwn eisoes wedi penderfynu fy mod am wneud ffilm am y profiad. Roedd yr holl beth mor hurt, ond eto mor dorcalonnus ar yr un pryd.”
Mae Taw Piau Hi yn ymwneud â lladrad bag llaw mam Inga Burrows, a gafodd ei ddwyn tra roedd hi yn marw gartref. Roedd hylltra blêr y lladrad yn tynnu sylw oddi wrth yr hyn a ddylai fod wedi bod yn ddechrau’r broses alaru, a thra bod y gosodwaith yn cynnwys gwrthrychau sy’n dangos agweddau ar fam Burrows, mae hefyd yn cynnwys cyfeiriadau at y peryglon a wynebir gan bobl fregus, sydd ar drugaredd eraill.
Tynnodd Simona Muzzi ffotograffau o ddillad ei diweddar fam ar gyfer Bond, “Fe wnes i gyfres ffotograffig gan roi dehongliad personol i’r boen trwy’r hunanbortread. Fel i anifeiliaid, lle mae arogl yn hanfodol bwysig iddynt wrth gydnabod y naill a’r llall, canfyddais yr arogl yn ei dillad a nodais diriogaeth fy nyfodol trwy eu gwisgo a mynd â nhw gyda mi ar fy nhaith.” Mae gosodiad cerfluniol sonig Rosie Strickland yn weithred o alaru ecolegol ac yn nodi colled bioamrywiaeth. “Dyma’r tro cyntaf i mi weithio gyda sain wrth i mi ei gael yn gyfrwng cynhyrfus ac effeithiol i gyfathrebu mater cymhleth galar ecolegol, a ninnau’n ddideimlad i gynifer o ddelweddau o drais amgylcheddol.”
Ac, yn y diwedd, dyna graidd y prosiect hwn; i ddefnyddio olion ac arlliwiau i fynegi teimlad pan fo geiriau’n annigonol.
Emma Geliot
Artistiaid sy’n arddangos: Helen Acklam; Richard Bowers; Maja Irene Bolier; Inga Burrows; Caitriona Dunnett; Rebecca Farkas; Michal Harada; Georgia Holmer; Valda Jackson; Simona Muzzi; Maddox Pratt; Dagmar Radmacher; Rosie Strickland; Sean Vicary; Emily Underwood-Lee & Jodie Allinson.
Rheolwr Prosiect / Cyd-Guradur: Inga Burrows; Cyd-guradur: Tracey Harding
Dolen i Celf Ganolog ar wefan Bro Morgannwg
https://www.valeofglamorgan.gov.uk/en/enjoying/Arts-and-Culture/Art-Central-Gallery.aspx
